Cysur y Sêr

Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog, a arweinir gan y Gymraeg, sydd â ffocws cenedlaethol. Mae’n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol effeithiol i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y prosiect yn arwain at berfformiadau Stars and their Consolations ar daith ledled Cymru, fis Mawrth tan fis Ebrill 2026.

Mae adrodd straeon am awyr y nos yn helpu i wneud synnwyr o batrymau cytser mewn ffyrdd sy'n ein cysylltu â'n gorffennol pell a diweddar, ac sy'n ein cyfeirio, mewn daearyddiaeth, amser, y flwyddyn dymhorol a diwylliant. Straeon yw un on ffyrdd mwyaf addasadwy a dibynadwy o drosglwyddo gwybodaeth rhwng cenedlaethau.

"I lawer ohonom efallai y bydd yn ymddangos nad yw'r byd erioed wedi teimlo mor rhanedig. Mae fel petai bethau’n digwydd ar gyflymder aruthrol, fel ein bod ni'n carlamu, yn gyflymach ac yn gyflymach, i mewn i storm afreolus . Mae'n llethol .... Does dim byd tebyg i sefyll yn y bydysawd, o yn edrych i fyny ar awyr y nos, i gael eich atgoffa o gyn lleied o reolaeth sydd gennym ni dros bob dim mewn gwirionedd. Mae mwynhau golygfeydd a synau'r nos, gyda miloedd o sêr yn hongian yn y tywyllwch uwch ein pennau yn ffordd arbennig o’n sadio."
Dani Robertson

Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Prosiect Nos, All Through The Night (Harper North, 2023)

Wrth weithio ar yr ymchwil a datblygu a siarad â chwedleuwyr a chynulleidfaoedd Cymru, fe sylweddolom fod perygl y gallai straeon a ysbrydolwyd gan awyr y nos gael eu colli oherwydd: -    cynydd mewn llygredd golau -    llai o bobl yn rhannu straeon y sêr mewn bywyd bob dydd

 Roeddem hefyd yn gyffrous i ddarganfod -    gwybodaeth bosibl o chwedlau Cymreig am gytserau sêr -    beth sy'n digwydd pan adroddir chwedlau Groegaidd am y sêr yn Gymraeg.

Byddwn yn gweithio gyda 10 canolfan ledled Cymru a’u cymunedau. Byddwn yn cydweithio â storïwyr profiadol ac egin storïwyr er mwyn archwilio'r themâu hyn a'r ffyrdd o gydweithio mewn ffyrdd sy'n hygyrch ac yn ymwybodol o'r hinsawdd.

Rydym yn dathlu hunaniaeth unigryw ac amrywiol Cymru fel gwlad sy'n gwarchod ei Hawyr Dywyll a'i diwylliant, gan gofleidio straeon mewn llawer o ieithoedd a threftadaeth wahanol.

Byddwn yn canolbwyntio ar dri maes gwaith dros y flwyddyn nesaf:  

Cefnogi storïwyr yng Nghymru

Cyfuno straeon ac awyr y nos gyda'i gilydd, a chefnogi ymwybyddiaeth hinsawdd

Defnyddio creadigrwydd i helpu cymunedau lleol, gwybodaeth, iechyd a lles

Funders

Arts Council of Wales logos
Dark Skies Logo
Cronfa Treftadaeth logo
Colwinston Trust logo
Theatrau Sir Gar logo
People Speak UP logo

Photo of Mair standing in front of the North Wales moors, wearing a red hat and glasses
Mair Tomos Ifans

Storïwr Cymraeg Arweiniol, prosiect Cysur y Sêr.

Photo of Tamar in a blue dress, long blonde hair, arms reaching outwards to the audience.
Tamar Eluned Williams

Storïwr Cymraeg Arweiniol, prosiect Cysur y Sêr.