Cyfuno straeon ac awyr y nos gyda'i gilydd, a chefnogi ymwybyddiaeth hinsawdd

Mae Cymru'n gartref i lawer o chwedlau a straeon cyfoethog, gyda llawer o storïwyr yn rhannu ac yn dehongli straeon ledled Cymru. Mae straeon sy'n cael eu rhannu ar adegau penodol o'r flwyddyn megis Noson Calan Gaeaf (Hallowe’en) a Noson Calan Mai  yn dangos y cysylltiad cryf ag awyr y nos a chwedlau lleol. 

A wyddoch chi... Cymru yw un o gyrchfannau gorau’r byd ar gyfer syllu ar y sêr, gyda nifer cynyddol o Leoedd a Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol a warchodwyd 

Mae llygredd golau yn cael effaith enfawr yn fyd-eang gydag 80% yn atal bodau dynol, planhigion ac anifeiliaid rhag profi nos naturiol, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. 

Byddwn yn cynnal cyfres o Fforymau Ar-lein yn gwahodd seryddwyr, partneriaid treftadaeth, storïwyr ac aelodau o'r gymuned i gysylltu â ni a chymryd rhan. Bydd y sesiynau hyn yn rhannu gwybodaeth ac yn ysgogi dysgu am straeon cytserau yn Hemisffer y Gogledd, gan ganolbwyntio ar wybodaeth Cymru gan adnabod bylchau yn ein gwybodaeth ac ardaloedd sydd â  photensial. Edrychwch ar ein tudalen Newyddion i ddarganfod dyddiadau’r Fforymau Ar-lein a gynhelir ym mis Gorffennaf.