Defnyddio creadigrwydd i helpu cymunedau lleol, gwybodaeth, iechyd a lles

Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi pobl ifanc a chymunedau cymysg i glywed, dysgu, mwynhau ac ailadrodd straeon Cytserau Awyr y Nos yn eu hiaith ddewisol, a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.

Rydym wedi cydweithio â'r sefydliad celfyddydau cymunedol People Speak Up a phartneriaid theatr, Theatrau Sir Gâr i archwilio straeon a lles mewn cyfnod o argyfwng. Rydym wedi trefnu wythnos adrodd straeon gyda PSU ac i ddefnyddio'r broses hon i helpu iechyd meddwl gyda'u grwpiau a'u cyfranogwyr lleol.

Rydym hefyd yn creu gwaddol o'r prosiect gyda Chasgliad y Werin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a fydd yn gasgliad sain o straeon a grëwyd gan y cymunedau sy'n rhan o'r prosiect.

Dewch yn ôl i'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn gweld y newyddion diweddaraf neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.