Gillian Brownson

Awdur-chwedleuwraig o Ynys Môn yw Gillian Brownson. Mae’n hoff iawn o unrhyw stori sy’n gysylltiedig â’r môr a’r sêr.

Fel Cyfarwydd Cyfoes i Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border, roedd Gillian yn archwilio storïau cenedlaethau gwahanol o Dreftadaeth Forwrol Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar bu’n gweithio fel Bardd i Blatfform Map Cyhoeddus Prifysgol Caergrawnt, a’i thema oedd, “Beth allwn ni ei weld mewn cytser?” Mae ganddi berthynas bwysig hefyd gyda Chanolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, fel Ymarferydd Creadigol Preswyl, yn rhannu chwedlau Arthuraidd mewn cyd-destunau chwedlonol Cymreig. Fel rhan o gohort ‘Sgwennu’n Well’ Llenyddiaeth Cymru, mae gan Gillian hefyd ddiddordeb mawr yn y ffordd y gall Ysgrifennu Creadigol a Chwedleua ein helpu i deimlo’n dda ac yn gysylltiedig.