Stacey Blythe
Cyfansoddwraig yw Stacey ac offerynwraig sy’n byw yn Ne Cymru.
Mae hefyd yn gantores, yn ysgrifennu caneuon ac yn chwedleuwraig. Dysgodd Gymraeg yn oedolyn a magu ei theulu gyda’r Gymraeg yn famiaith iddynt, gan ddweud ei fod wedi newid ei bywyd. Mae Stacey wrth ei bodd yn perfformio storïau yn ddwyieithog gyda cherddoriaeth fyw ac mae’n artist gweledol hefyd. Yn ddiweddar roedd Stacey yn chwedleua fel chwedleuwr dwyieithog a cherddor Theatr Sherman ac fel chwedleuwr preswyl i Dechrau’n Deg Caerdydd.