Fiona Collins
Mae Fiona wedi bod yn chwedleuwraig ers mwy na deg mlynedd ar hugain, gan weithio gyda phobl o bob oed a gallu mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae’n byw yng Ngharrog ym Mryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy.
Mae’n gweithio trwy gyfrwng y Saesneg, ei mamiaith, a’r Gymraeg, ei hail iaith, a hi oedd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2019.
Mae’n arbennig o hoff o storïau sy’n helpu i gryfhau ein cysylltiad â byd natur.