Cyhoeddi chwedleuwyr dwyieithog i chwedleua yn Gymraeg a chyflawni’r cynllun awyr y nos
Dewiswyd 10 o chwedleuwyr dwyieithog i helpu i gyflawni cynllun trwy Gymru gyfan sydd â’r nod o gefnogi’r sector chwedleua Cymraeg yng Nghymru, ac ymdrin ag effaith newid hinsawdd ar ein hawyr yn y nos.
Mae Cysur y Sêr yn brosiect Cymraeg a dwyieithog sy’n ymwneud â datblygu storïau yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol llawn effaith i genedlaethau’r dyfodol, gan arwain at berfformiadau taith Cysur y Sêr ar draws Cymru ym Mawrth-Ebrill 2026.
Prosiect trwy Gymru dan arweiniad y cwmni cynhyrchu chwedleua Adverse Camber yw Cysur y Sêr, gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Yn ystod y 6 mis nesaf bydd 10 o chwedleuwyr yn gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru, gan gynnwys 10 lleoliad sy’n ymwneud â’r daith, ac yn cydweithio gyda grŵp o chwedleuwyr profiadol ac sy’n dod i’r amlwg i archwilio themâu a ffyrdd o weithio gyda’i gilydd mewn modd sy ‘n hygyrch ac yn ymwybodol o’r hinsawdd.
Aeth galwad allan dros yr haf am berfformwyr, artistiaid, cerddorion a chwedleuwyr Cymraeg eu hiaith i fod yn rhan o’r prosiect hwn.
Yr artistiaid a ddewiswyd yw Rhodri Trefor a Gillian Brownson o Ynys Môn; Fiona Collins o Ddyffryn Dyfrdwy, Chris Baglin o Glwyd, Ceri Phillips o Landeilo, Hedydd Hughes o Ogledd Sir Benfro; Stacey Blythe o Gaerdydd a Dan Mitchell o Bontardawe. Er eu bod yn chwedleuwyr i gyd, gallant hefyd ddefnyddio eu sgiliau actio, comedi stand-yp a cherddoriaeth.
Bydd dau arweinydd prosiect chwedleua yn ymuno â nhw, Tamar Eluned Williams o Gaerdydd a Mair Tomos Ifans o’r Canolbarth.
Yn ystod y misoedd nesaf bydd y tîm yn creu rhaglen o weithgareddau gyda’i gilydd, yn dilyn sesiwn hyfforddi breswyl yn Nhŷ Newydd dan arweiniad y chwedleuwyr Cymraeg Tamar Eluned Williams a Mair Tomos Ifans.
Mae’r tîm wedi cyffroi hefyd gan y posibilrwydd y byddant yn datblygu a darganfod chwedlau Cymraeg am batrymau’r sêr gyda chynulleidfaoedd a chymunedau a chael gwybod beth sy’n digwydd pan fydd chwedlau Groegaidd am y sêr yn cael eu dweud yn Gymraeg.
“Bydd prosiect y Sêr yn galluogi llawer o ddatblygiad proffesiynol a chreadigol i chwedleuwyr yng Nghymru, yn neilltuol y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg. Mae diddordeb cynyddol yn y ffurf, yn ogystal ag yn y casgliad o chwedlau a llên gwerin yr ydym yn gweithio gyda nhw, a bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i ni archwilio a datblygu casgliad newydd o storïau yng nghyswllt y cytser a’r awyr dywyll. Gallwn hefyd gryfhau ein rhwydweithiau creadigol, rhannu sgiliau, a pharhau i ddatblygu chwedleua i fod yn gynaliadwy yng Nghymru.” Tamar Eluned Williams Chwedleuwr Arweiniol ar brosiect Cysur y Sêr.
Bydd Cysur y Sêr yn cyflwyno gweithgareddau mewn cymunedau fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru yn Chwefror 2026. Bydd y prosiect hefyd yn gadael gwaddol parhaus a fydd yn cael cartref yng Nghasgliad y Werin yn y Llyfrgell Genedlaethol, fydd yn gasgliad sain o storïau wedi eu creu gan y chwedleuwyr sy’n rhan o’r prosiect.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Rydym yn falch o gefnogi Cysur y Sêr, prosiect sy’n dwyn at ei gilydd chwedleua, iaith a’n treftadaeth naturiol. Trwy gysylltu cymunedau ag awyr y nos a chwedlau Cymru, bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol yn cael ei chadw ac yn ysbrydoli storïau newydd i genedlaethau’r dyfodol. Gwnaed hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’n enghraifft o sut y gall treftadaeth fod wedi ei wreiddio mewn traddodiad a hefyd yn edrych tua’r dyfodol.”

Yn dilyn y prosiect, bydd perfformiad Saesneg o Cysur y Sêr, fydd yn teithio trwy Gymru ym Mawrth-Ebrill 2026.
Gellir gweld rhagor o fanylion am y prosiect a’r daith yn adversecamber.org
Cefnogir gan Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Llenyddiaeth Cymru, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Comisiynwyd Cysur y Sêr yn wreiddiol ar gyfer Beyond the Border 2021 a chefnogwyd y gwaith ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr.