Hedydd Hughes
Bum yn ffodus o gael fy magu yn Abergwaun, ar arfordir Gogledd Sir Benfro, a ches fy ysbrydoli gan lawer o chwedleuwyr lleol.
Clywais straeon a chwedlau ganddynt, yn trosglwyddo eu gwybodaeth am y dirwedd, llên gwerin, cymeriadau a bywyd pob dydd y trigolion. Mae'n fraint i mi barhau â'r traddodiad hwn. Bellach dwi’n byw ger goleudy Pen Caer, ac yno mae amlinell y dirwedd yn cael ei goleuo bob nos gan bedwar fflach pob 15 eiliad. Wrth ymuno â'r prosiect, rwy’n edrych ymlaen at gasglu a rhannu straeon am awyr y nos gyda llawer o ffrindiau newydd.