Rhodri Trefor

Mae Rhodri Trefor yn actor o Ynys Môn sy’n mwynhau’r celfyddydau ac yn angerddol am adrodd straeon.

Mae wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu poblogaidd fel RYBISH, Pobol y Cwm a Rownd a RownD. Ar lwyfan, mae wedi gweithio gyda chwmnïau megis Fran Wen, Bara Caws, a Theatr Genedlaethol Cymru, ac yn ddiweddar bu’n rhan o’r sioe Y Stand yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal â’i waith perfformio, mae’n mwynhau rhannu creadigrwydd drwy weithdai drama ac ysgrifennu straeon newydd, gan weld y celfyddydau fel ffordd o uno pobl a chodi ysbryd cymunedau.