Chris Baglin

Mae Chris yn berfformiwr amryfath ac actor yn wreiddiol o Ogledd Cymru ond rŵan yn byw ar y ffin.

Mae o’n gonsuriwr, pypedwr a chwedleuwr, yn perfformio dan yr enwau Professor Llusern a Chyfarwydd Cymru. Yr olaf yma yw ei enw barddol fel rhan o Orsedd Eisteddfod Powys. Mae Cyfarwydd yn derm sy’n codi o’r oesoedd canol am storïwr a diddanwr. Mae o’n perfformio mewn Cestyll, Canolfan Treftadaeth, a gwyliau ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt. Yn y blynyddoedd diweddar mae o wedi bod yn chwedleuwr rheolaidd yng Nghastell Conwy, Gŵyl Dafydd ap Siencyn, Gŵyl Bryn y Beili ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yn ystod y cyfnod clo fu iddo ddechrau podlediad dwyieithog dan y teitl Yma Mae Dreigiau sy’n bennaf yn chwedlau o Gymru.
Pan nad yw'n perfformio ei hun mae o’n teithio o gwmpas y wlad a thramor fel beirniad ddrama ac yn trefnu digwyddiadau a gweithdai ar ran Menter Iaith Fflint a Wrecsam. Mae o hefyd yn awdur sgriptiau, artist trosleisio, a darparwr yng Nghynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol (prosiect Cyngor y Celfyddydau) ac yn un o helpwyr Siôn Corn bob ‘Dolig.